Dwi'n siwr fod pawb dal i fod yn llawn ar ol yr wyl ond gwelais i'r resait traddodiadol Cymreig yma ar y We.
http://www.celtnet.org.uk/recipes/cym/fetch-recipe.php?rid=oen-saws-llus
Cig Oen â Saws Llus (Lamb with Bilberry Sauce)
Cynhwysion
4x150g stéc coes oen
1 llwy fwrdd olew olewydd
125g nionyn wedi ei dorri yn fân
2 clof garlleg wedi ei dorri'n fân
50ml finegr mafon
1 llwy de o hadau pupur du wedi eu cracio
120ml sudd oren ffres
120ml gwin gwyn sych
1 llwy fwrdd purée tomato
150ml o ddŵr;
125g llus newydd eu pigo
1 llwy fwrdd of fél
3 crafell o groen oren
pupur du a halen
Dylid rhoi'r olew mewn padell a'i gynhesu. Pan yn barod rhoddwch bupur a halen ar y cig oen cyn ei roi yn y padell a'i goginio nes yn frown drosodd. Rhoddwch y cig i'r neilltu ac yna gellid tolldi'r nionyn a'r garlleg i'r badell poeth a'u coginio nes yn feddal. Pan yn barod ychwanegwch y finegr a'r hadau pupur. Dylid berwi'r finegr nes ei fod wedi diflannu'n llwyr bron cyn ychwanegu'r gwEE;n, y sudd oren a'r mêl. Ar y pwynt yma dylia ychwanegu hanner y llus, y purée tomato a'r croen oren. Wedi dod a'r cymysgfa i ferwi dylid troi'r gwres i lawr cyn mudferwi'r cyfan am tua pum munud pan ddylid ychwanegu'r dŵr.
Trosglwyddwch y cymysgfa o'r badell i ddesgil a chaead a ellid ei roi mew popty. Trosgwlyddwch y cig oen yn ol i'r ddesgil gan goi caead arno a'i drosglwyddo i bopty cymhedrol gan ei goginio am 40 munud. Trosglwyddwch y cig oen i le cynnes a tolltwch y saws yn ol i'r badell gwreiddiol gan leihau y saws ychydig drwy ei ferwi cyn ychwanegu gweddill y llus. Pan mae croen y ffrwythau newydd yma bron ar dorri tolltwch y saws dros y cig a'i weini'n unionsyth.
No comments:
Post a Comment