14/12/2007

Eisteddfod yr Urdd Bro Conwy 2008


Mae Cyngor Sir Conwy wedi datgan eu bod yn ail edrych ar gyfrannu £300,000 tuag at cynal Eisteddfod yr Urdd 2008 ym Mae Penrhyn. Y rheswm mae'r cyngor yn rhoi am y newid meddwl yw bod grant i'r sir o'r Cynulliad yn llai na'r disgwyl. Yn ol y Cyngor maent yn edrych ar doriadau ar draws pob un o wasanaethau'r awdurdod.

Does neb dwi'n siwr am ddadlau bod Eisteddfod yn fwy haeddiannol o grant cyngor nac ydy Addysg, Ysbytai na'r Gwasanaeth Cymdeithasol ond mae'n rhaid cofio mae gwahoddiad cafodd Yr Urdd i fynd a'r Eisteddfod i Fro Conwy yn 2008. Felly na ddylai'r Cyngor cadw at ei addewid o'r £300,000 i'r Urdd heb wneud toriad yn ei chyfraniad.

Yn ffodus bydd Eisteddfod blwyddyn nesaf yn mynd yn ei flaen gyda neu heb arian Cyngor Sir Conwy. Ond mae rhaid gofyn y cwestiwn am sut bydd Eisteddfodau yr Urdd yn cael ei ariannu yn y dyfodol gan ystyried pwysau cynyddol ar gyllidebau awdurdodau lleol.

11/12/2007

Cardiff City ?


Beth sy'n digwydd ym Mharc Ninian. Er fy mod yn cefnogwr pel droed Wrecsam dwi wedi bod yn dilyn y stori pel droed fawr o'r brifddinas. Neu i fod yn hollol onest wrth ddarllen y newyddion yn y wasg, ar y we, neu gwylio'r newyddion ar y teledu dydw i ddim wir yn deall beth sy'n digwydd yno.

Un peth sy'n sicr dydwi ddim yn credu bod y cefnogwyr yn clywed y gwir na'r stori cyfan. Dydw i ddim yn trystio cyn cadeirydd Caerdydd na chwaith yr un presenol. Yn sicr dydy record y ddau gyda clybiau eraill ddim yn rhai da. Mae'n neud i chi feddwl a ydy adeiladu stadiwm newydd a stad o siopau yn bwysicach i rai sy'n rhedeg y clwb nag ydy'r clwb pel droed ei hun.

Mae'n rhaid i Gymru cael clybiau pel droed sydd mor gryf a phosib. Mae angen i Abertawe, Wrecsam a Chaerdydd chwarae i'r lefel gorau posib. Buasai un arall yn disgyn mewn i drafferthion arian mawr ddim yn helpu dyfodol pel droed yng Nghymru o gwbl.

07/12/2007

Siopa Nadolig


Yfory fyddaf yn ymuno a miloedd o bobl eraill yr ardal a teithio mewn i Gaerdydd am ychydig o siopa Nadolig.
Profiad diddorol iawn.

Codi'n gynar a cael fy nhrin fel dafad ar dren llawn dop o Gaerffili i Queen Street. Teithio o siop i siop yn chwilio am anrehgion oddi ar rhestr fy Ngwraig. O Boots, i Argos, Debenhams a Smiths ac yn olaf i siop Ffon Symudol rhywle yn y Ddinas. Un ciw hir ar ol un arall pobl yn colli tymer yn aros i dalu o flaen staff diamynedd . Cyn gorffen i fyny yn Old Orleans am ddiod a gweld pobl yn gwenu am y tro cyntaf. Yna dychwelyd i Gaerffili yn barod am chwaraeon y pnawn ar y teledu a'r radio.

03/12/2007

Ffoniwch am Joe Calzaghe

Llynedd yng Nghystadleuaeth BBC Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn enillodd Zara Philllips. Darllenais i'n rhywle yn ddiweddar y rheswm am ei llwyddiant ar y noson oedd i gymuned marchogaeth ceffylau trefnu eu hunain a sicrhau digon o bleidleisau iddi enill.

Eleni mae'n amser i ni wneud yr un peth ar gyfer Cymro Joe Calzaghe. Nid oherwydd ei fod yn Gymro er fod hynny'n helpu, ond oherwydd o ran llwyddiant chwaraeon mae'n ei haeddu. Dwi ddim eisiau critiseisio unrhyw un o'r ymgeiswyr eraill, gewch chi gwneud hynny eich hunain ond mae digon o resymau positif i bam mae Calzaghe yn haeddu'r wobr.

Mae ef wedi bod yn Bencampwr y Byd am dros degawd yn hirach nag unrhyw un arall yn hanes bocsio Prydeinig ac yn hirach nag unrhyw un arall yn y byd ar hyn o bryd. Mae wedi curo Peter Manfredo a Mikkel Kessler o Ddenmarc ac yn gallu denu dorf o bron 50,000 i Gaerdydd.


Felly dewch Cymru ar nos Sul nesaf Ffoniwch am Joe !

01/12/2007

Papur Newydd Cymraeg "Y Byd"

Braf iawn oedd clywed mis Mehefin diwethaf fod cynlluniau i greu papur dyddiol yn y Gymraeg. Y gobaith oedd ei lansio ar ol Dydd Gwyl Dewi, ar Fawrth y 3ydd 2008 gyda tua 5,000 o gopiau yn cael eu gwerthu'n ddyddiol. Roedd yn amlwg o'r dechrau bod angen arian cyhoeddus tuag at y fath gynllun gyda'r Cynulliad a'r Bwrdd Iaith yn gweud cyfraniadau sylweddol.

Siom oedd clywed yr wythnos hon bod problemau gyda'r paratoadau a bod y dyddiad lansio wedi cael ei ohirio tan efallai 2009. Rhai blynyddoedd yn ol gwerthwyd papur wythnosol ar Ddydd Sul os rwy'n cofio'n gywir "Y Sulyn" oedd ei enw. Yn anffodus disgynodd nifer y darllenwyr ac oherwydd rhesymau arianol gorffenodd y papur.

Rwy'n gobeithio mae nid problemau cost yn unig sydd tu ol i'r dileu yn y lansiad. Bechod fuasai colli cyfle i greu rhywbeth newydd yn y Gymraeg oherwydd arian ac oherwydd rydym yn genedl mor fach mewn nifer.