Mae Cyngor Sir Conwy wedi datgan eu bod yn ail edrych ar gyfrannu £300,000 tuag at cynal Eisteddfod yr Urdd 2008 ym Mae Penrhyn. Y rheswm mae'r cyngor yn rhoi am y newid meddwl yw bod grant i'r sir o'r Cynulliad yn llai na'r disgwyl. Yn ol y Cyngor maent yn edrych ar doriadau ar draws pob un o wasanaethau'r awdurdod.
Does neb dwi'n siwr am ddadlau bod Eisteddfod yn fwy haeddiannol o grant cyngor nac ydy Addysg, Ysbytai na'r Gwasanaeth Cymdeithasol ond mae'n rhaid cofio mae gwahoddiad cafodd Yr Urdd i fynd a'r Eisteddfod i Fro Conwy yn 2008. Felly na ddylai'r Cyngor cadw at ei addewid o'r £300,000 i'r Urdd heb wneud toriad yn ei chyfraniad.
Yn ffodus bydd Eisteddfod blwyddyn nesaf yn mynd yn ei flaen gyda neu heb arian Cyngor Sir Conwy. Ond mae rhaid gofyn y cwestiwn am sut bydd Eisteddfodau yr Urdd yn cael ei ariannu yn y dyfodol gan ystyried pwysau cynyddol ar gyllidebau awdurdodau lleol.
No comments:
Post a Comment