13/01/2008

Parcio ar Zig Zags Melyn tu fas i Ysgol

Dydw i weithiau ddim yn deall beth sy'n digwydd mewn Cymdeithas. Tu fas i bron pob ysgol yng Nghymru mae marciau melyn siap zig zag sy'n ceisio atal pobl rhag parcio yno. Y rheswm -diogelwch plant, gwneud pethau'n haws i blant ysgol a'i rhieni croesi rhewl. Wrth gwrs tu fas i bron pob ysgol Yng Nghymru mae rhieni yn anwybyddu'r marciau oherwydd maent yn meddwl am un neu ddau o blant yn lle meddwl am y degau neu'r canoedd eraill.

Yr wythnos yma roedd digwyddiad bach tu fas i un o ysgolion cymoedd De Cymru, wnai ddim ei henwi am rhesymau amlwg. Penderfynodd dau o Swyddogion Heddlu'r Cymdeithas seffyll tu fas i ysgol gyda'r penderfyniad i fwcio unrhyw gyrwr oedd yn parcio ar y marciau melyn. Doedd dim syndod eu bod wedi bwcio nifer o yrwr dros y diwrnodau diwethaf. Y syndod mawr yw bod rhieni wedi dadlau a creu sgrach gyda'r heddweision yng nghanol y stryd. Clywais i un yn gweiddi "Where am I supposed to park then ?". Ond y syndod mwyaf i mi a'r siom bod dau o rhieni'r ysgol wedi gwneud cwynion swyddogol i'r Pencadlys Heddlu am eu bod wedi cael eu bwcio. Yn lle derbyn eu bod hwy yn anghywir maent yn credu bod yr Heddlu'n anghywir am gwneud deu gwaith.

Mae'r siwr yfory Dydd Llun ni fydd yr Heddlu o gwmpas yr ardal a bydd rhai o'r rhieni hyn yn ol yn parcio ar y marciau zig zag melyn ac yn creu perygl i blant.

No comments: