15/02/2008

Cymru yn y Eurovision ?


Breuddwyd neu hunlle.

Mae'n bosib y flwyddyn nesaf (2009) y bydd yr Alban yn canu'n annibynol yng Nghystadleuaeth Canu'r Eurovision. Mae nifer yn y wlad wedi bod yn ymgyrchu am hyn am sbel yn ol y Wasg Albanaidd. Yn ol rheolau'r EBU sy'n cynhyrchu'r sioe mae gan unrhyw wlad sy'n aelod o'r undeb yr hawl i roi can yn y gystadleuaeth. Mae'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn aelodau.

Os fydd yr Alban yn llwyddo dwi'n rhagweld Cymru yn cystadlu naill ai yn yr un flwyddyn neu y flwyddyn wedyn. Sgwn i ble fydd 12 pwynt pobl Cymru'n mynd ?

11/02/2008

Ydy Cymru angen Wrecsam

Dwi di cefnogi Wrecsam am 33 o flynyddoedd ac er fy mod nawr yn byw yn Nhe Cymru dal i deithio i dua haner dwsin o gemau crtref a tua 3i 4 oddi cartref pob blwyddyn. Os fuasai Wrecsam yn disgyn allan o'r gynrhair busai'n trychinbeb i mi ac i holl genfogwyr Wrecsam.

Ond beth fuasai'r effaith ar bel droed yng Nghymru. Dwi'n credu fusai'n anoddach (yn sicr yn bell o fod yn amhosib) i fechgyn ifanc y Gogledd chwarae i'r safon rhyngwladol. Fuasai safon "Pel droed yn y Gymuned" yn sicr o dioddef a fwy o fechgyn ifanc siroedd Fflint, Wrecsam a Dinbych yn edrych tua Lloegr. Tan i Gunter chwarae i Gymru llynedd dydw i ddim yn cofio umrhyw un o siroedd Casnwewydd na Mynwy yn chwarae i'r tim Cenedlaethol ers i Gasnewydd disgyn o'r Gynrhair yn niwedd yr 80au. Dydw i ddim yn dweud na fydd fwy o chwareuwyr o'r Gogledd yn chware i Gymru, fydd hynny ddim yn digwydd, ond mae siawns fawr y bydd llai.

Felly os fydd Wrecsam yn cwympo eleni bydd effaith ar y tim cenedlaethol mewn degawd i nawr?

01/02/2008

Lloegr v Cymru


Wel mae penwythnos y gem fawr wedi dod. Er fy mod yn gefnogwr pel droed rwyf yn edrych ymlaen pob flwyddyn i wylio gemau'r 6 gwlad yn enwedig Cymru yn chwarae'r hen elyn Loegr. Does dim gem arall sy'n uno'r Cymry yn fwy na'r gem yma ac codi gwefr a chreu cynwrf yn ein cendl fach. Miloedd yn tyru draw i Twickers i wylio'r gem a miloedd fwy yn dod o'r Gorllewin y Gogledd a'r Cymoedd i Gaerdydd am sesh a wylio mewn tafarn yng Nghanol y ddinas. Does dim rhyfedd bod Rheolwyr Bragdy Brains yn edrych ymlaen am yr amser yma o'r flwyddyn.

Felly un peth sydd i dddweud Dewch o na Cymru, Come on Wales !

13/01/2008

Parcio ar Zig Zags Melyn tu fas i Ysgol

Dydw i weithiau ddim yn deall beth sy'n digwydd mewn Cymdeithas. Tu fas i bron pob ysgol yng Nghymru mae marciau melyn siap zig zag sy'n ceisio atal pobl rhag parcio yno. Y rheswm -diogelwch plant, gwneud pethau'n haws i blant ysgol a'i rhieni croesi rhewl. Wrth gwrs tu fas i bron pob ysgol Yng Nghymru mae rhieni yn anwybyddu'r marciau oherwydd maent yn meddwl am un neu ddau o blant yn lle meddwl am y degau neu'r canoedd eraill.

Yr wythnos yma roedd digwyddiad bach tu fas i un o ysgolion cymoedd De Cymru, wnai ddim ei henwi am rhesymau amlwg. Penderfynodd dau o Swyddogion Heddlu'r Cymdeithas seffyll tu fas i ysgol gyda'r penderfyniad i fwcio unrhyw gyrwr oedd yn parcio ar y marciau melyn. Doedd dim syndod eu bod wedi bwcio nifer o yrwr dros y diwrnodau diwethaf. Y syndod mawr yw bod rhieni wedi dadlau a creu sgrach gyda'r heddweision yng nghanol y stryd. Clywais i un yn gweiddi "Where am I supposed to park then ?". Ond y syndod mwyaf i mi a'r siom bod dau o rhieni'r ysgol wedi gwneud cwynion swyddogol i'r Pencadlys Heddlu am eu bod wedi cael eu bwcio. Yn lle derbyn eu bod hwy yn anghywir maent yn credu bod yr Heddlu'n anghywir am gwneud deu gwaith.

Mae'r siwr yfory Dydd Llun ni fydd yr Heddlu o gwmpas yr ardal a bydd rhai o'r rhieni hyn yn ol yn parcio ar y marciau zig zag melyn ac yn creu perygl i blant.

03/01/2008

Cwyno am Sain Ffagan

Mae'n rhaid i mi fod y ohnest i ddechrau trwy dweud dwi'n mynd i Sain Ffagan amryw o weithiau pob blwyddyn ac yn mwynhau pob ymweliad. Pob tro dwi'n mynd gyda'r teulu dwi dal i deimlo y dylai rhai pethau cael ei wneud yn wahanol. Does dim dwywaith gen i mae Sain Ffagan yw'r amgueddfa awyr agored gorau nid yn unig yng Nghymru ond trwy'r Ynysoedd Prydeinig. Dwi di bod i Amgueddeydd Llechi yn Llanberis, Black Country Museum yn Dudley ac hefyd y Beamish Museum yn Sir Durham, does dim un o'r rhain mor dda a Sain Ffagan.

Pam cwyno am y lle te. Dwi hefyd wedi bod i amryw o amgueddfeydd tebyg ar y cyfandir yn cynnwys yr Amgueddfa Awyr Agored Cenedlaethol yn yr Iseldiroedd ger Arnhem. Mae'n rhaid i mi ddweud eu bod nhw'n gwneud pethau ychydig bach yn well. Wrth gerdded o gwmpas roeddwn yn teimlo fy mod wedi mynd nol mewn amser ac nid yn unig yn ymweld ag amgueddfa. Roedd y staff yno wedi gwisgo mewn gwisgoedd o'r gorffennol ac mewn gwisgoedd cenedlaethol y wlad ac hefyd yn siarad ac egluro pethau llawer mwy yn cynnwys yn yr iaith Saesneg (Ychydig bach yn embarrasing gan nad wyf yn gallu siarad Iseldireg).

Dwi ers amser bellach wedi credu y dylai fwy o ymdrech i wisgo lan gael ei wneud yn Sain Ffagan fel bod yr amgueddfa yn gallu codi o fod yr amgueddfa gorau'r ynys i fod y gorau yn Ewrop.

02/01/2008

Resait am Gig Oen a Saws Llus

Dwi'n siwr fod pawb dal i fod yn llawn ar ol yr wyl ond gwelais i'r resait traddodiadol Cymreig yma ar y We.

http://www.celtnet.org.uk/recipes/cym/fetch-recipe.php?rid=oen-saws-llus

Cig Oen â Saws Llus (Lamb with Bilberry Sauce)

Cynhwysion
4x150g stéc coes oen
1 llwy fwrdd olew olewydd
125g nionyn wedi ei dorri yn fân
2 clof garlleg wedi ei dorri'n fân
50ml finegr mafon
1 llwy de o hadau pupur du wedi eu cracio
120ml sudd oren ffres
120ml gwin gwyn sych
1 llwy fwrdd purée tomato
150ml o ddŵr;
125g llus newydd eu pigo
1 llwy fwrdd of fél
3 crafell o groen oren
pupur du a halen

Dylid rhoi'r olew mewn padell a'i gynhesu. Pan yn barod rhoddwch bupur a halen ar y cig oen cyn ei roi yn y padell a'i goginio nes yn frown drosodd. Rhoddwch y cig i'r neilltu ac yna gellid tolldi'r nionyn a'r garlleg i'r badell poeth a'u coginio nes yn feddal. Pan yn barod ychwanegwch y finegr a'r hadau pupur. Dylid berwi'r finegr nes ei fod wedi diflannu'n llwyr bron cyn ychwanegu'r gw�EE;n, y sudd oren a'r mêl. Ar y pwynt yma dylia ychwanegu hanner y llus, y purée tomato a'r croen oren. Wedi dod a'r cymysgfa i ferwi dylid troi'r gwres i lawr cyn mudferwi'r cyfan am tua pum munud pan ddylid ychwanegu'r dŵr.
Trosglwyddwch y cymysgfa o'r badell i ddesgil a chaead a ellid ei roi mew popty. Trosgwlyddwch y cig oen yn ol i'r ddesgil gan goi caead arno a'i drosglwyddo i bopty cymhedrol gan ei goginio am 40 munud. Trosglwyddwch y cig oen i le cynnes a tolltwch y saws yn ol i'r badell gwreiddiol gan leihau y saws ychydig drwy ei ferwi cyn ychwanegu gweddill y llus. Pan mae croen y ffrwythau newydd yma bron ar dorri tolltwch y saws dros y cig a'i weini'n unionsyth.