03/01/2008

Cwyno am Sain Ffagan

Mae'n rhaid i mi fod y ohnest i ddechrau trwy dweud dwi'n mynd i Sain Ffagan amryw o weithiau pob blwyddyn ac yn mwynhau pob ymweliad. Pob tro dwi'n mynd gyda'r teulu dwi dal i deimlo y dylai rhai pethau cael ei wneud yn wahanol. Does dim dwywaith gen i mae Sain Ffagan yw'r amgueddfa awyr agored gorau nid yn unig yng Nghymru ond trwy'r Ynysoedd Prydeinig. Dwi di bod i Amgueddeydd Llechi yn Llanberis, Black Country Museum yn Dudley ac hefyd y Beamish Museum yn Sir Durham, does dim un o'r rhain mor dda a Sain Ffagan.

Pam cwyno am y lle te. Dwi hefyd wedi bod i amryw o amgueddfeydd tebyg ar y cyfandir yn cynnwys yr Amgueddfa Awyr Agored Cenedlaethol yn yr Iseldiroedd ger Arnhem. Mae'n rhaid i mi ddweud eu bod nhw'n gwneud pethau ychydig bach yn well. Wrth gerdded o gwmpas roeddwn yn teimlo fy mod wedi mynd nol mewn amser ac nid yn unig yn ymweld ag amgueddfa. Roedd y staff yno wedi gwisgo mewn gwisgoedd o'r gorffennol ac mewn gwisgoedd cenedlaethol y wlad ac hefyd yn siarad ac egluro pethau llawer mwy yn cynnwys yn yr iaith Saesneg (Ychydig bach yn embarrasing gan nad wyf yn gallu siarad Iseldireg).

Dwi ers amser bellach wedi credu y dylai fwy o ymdrech i wisgo lan gael ei wneud yn Sain Ffagan fel bod yr amgueddfa yn gallu codi o fod yr amgueddfa gorau'r ynys i fod y gorau yn Ewrop.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Dwi'n ffan mawr o'r lle ac yn tueddu mynd ag unrhywun sy'n ymweld a ni am y tor cyntaf yno.

Hefyd yn Sain Ffagan ges i fy swydd cyntaf, fel gofalwr rhan amser. Joen wych 11-4 6 diwrnod mlaen, 2 i ffwrdd yn mynd o adeilad i adeilad trwy'r dydd tro byddai gofalwyr lawn amser yn mynd am eu cinio a toriad pnawn.

Dwi ddim yn siwr am y gwisgoedd (er byddai'n gweithio drwy gal gwisg y cyfnod i gyd fynd oed pob tŷ), ond yn bendant dylai bod mwy o bwyslais ar ddysgu am hanes yr adeiladau i'r gofalwyr. Yr unig wir gyfrifoldeb gofynol oedd bod yn gwrtais a gwneud yn siwr doedd neb yn dwyn/difrodi cynnwys yr adeiladau. Roedd ffolder ym mhob tŷ gyda gwybodaeth ywchanegol, ond doedd ddim yn orfodol i neb ei ddarllen.

Roedd (a mae dal) yna rhai cymeriadau gwych yn gweihthio yno - roeddwn yn gweld pobl newydd ymddeol yn gwneud ymdrecha arbennig i roi'r profiad gorau i ymwelwyr. Ond roedd rhai wedi bod yno ers tua 40 mlynedd ac yn gallu bod yn ddigon swta. Byddai gofyn newyd statws a hyfforddiant y gweithwyr, ond dwi'n sicr byddai'n codi safon ac yn gwella'r amgueddfa. Yr unig broblem yw byddai'n golygu mwy o arian.

Efallai bod hyn yn ddadleuol, ond dwi'n meddwl dylai'r amgueddfa godi ar pobl i ymweld - hoffwn wybod faint o incwm oedd yn gael cyn newid polisi, ac ar pa sail mae leel y cymorthdal yn cael ei osod.