01/02/2008

Lloegr v Cymru


Wel mae penwythnos y gem fawr wedi dod. Er fy mod yn gefnogwr pel droed rwyf yn edrych ymlaen pob flwyddyn i wylio gemau'r 6 gwlad yn enwedig Cymru yn chwarae'r hen elyn Loegr. Does dim gem arall sy'n uno'r Cymry yn fwy na'r gem yma ac codi gwefr a chreu cynwrf yn ein cendl fach. Miloedd yn tyru draw i Twickers i wylio'r gem a miloedd fwy yn dod o'r Gorllewin y Gogledd a'r Cymoedd i Gaerdydd am sesh a wylio mewn tafarn yng Nghanol y ddinas. Does dim rhyfedd bod Rheolwyr Bragdy Brains yn edrych ymlaen am yr amser yma o'r flwyddyn.

Felly un peth sydd i dddweud Dewch o na Cymru, Come on Wales !

1 comment:

Gary said...

Ti 'di disgyn i fewn i'r trap ystradebol "does na'r un gêm yn uno C ymru" wir ... mi fydda'i a miloedd ar filoedd o Gymry eraill yn gwylio Caerdydd, Wrecsam, Abertawe neu gemau Cwpan Cymru heb sôn am y canoedd ar ganoedd o gemau bychan led-led Cymru.

Tydi Cymru ddim yn dod i stop ar ddiwrnod y "Gêm Fawr" fel mae'r BBC yn mynnu ei galw hi, sti!