07/12/2007

Siopa Nadolig


Yfory fyddaf yn ymuno a miloedd o bobl eraill yr ardal a teithio mewn i Gaerdydd am ychydig o siopa Nadolig.
Profiad diddorol iawn.

Codi'n gynar a cael fy nhrin fel dafad ar dren llawn dop o Gaerffili i Queen Street. Teithio o siop i siop yn chwilio am anrehgion oddi ar rhestr fy Ngwraig. O Boots, i Argos, Debenhams a Smiths ac yn olaf i siop Ffon Symudol rhywle yn y Ddinas. Un ciw hir ar ol un arall pobl yn colli tymer yn aros i dalu o flaen staff diamynedd . Cyn gorffen i fyny yn Old Orleans am ddiod a gweld pobl yn gwenu am y tro cyntaf. Yna dychwelyd i Gaerffili yn barod am chwaraeon y pnawn ar y teledu a'r radio.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Swnio fel uffern ar y ddaear, ddoist ti adre'n un darn? Gobeithio roedd yn daith mwy llwyddiannus nag un fi i Daggenham!

David Roberts said...

Des i nol jyst mewn pryd i wrando ar y gem ar y radio.

Fel ti dwi di bod ar dripiau crap i wylio Wrecsam. Ond fydda ni gyd yn gwneud yr un peth eto. Mis Mawrth Brentford away.