30/05/2009

Toshack neu Flynn

Mae'n amlwg na fydd Tim Pel Droed Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd 2010 yn dilyn canlyniad wael adre yn erbyn y Ffindir. Mae'n amlwg hefyd fod nifer o chwareuwyr ifanc a photentsial mawr yn dechrau tori trwodd i dimau cyntaf yn yr Uwch Gyngrhair ac i dim cyntaf Cymru. Ond pwy yw'r gorau i arwain y tim Cenedlaethol am y tair blynedd nesaf. Roeddwn wrth fy modd pan glywais bod Toshack yn rheolwr Cymru ac rwy'n hoffi'r ffordd mae'n ceisio cael y chwareuwyr i basio'r pel yn bwyllog fyny'r cael. (Steil sy'n eithaf tebyg i Brian Flynn). Ydy Toshack yn haeddu un cyfle arall i ddatblygu'r talent ifanc neu fuasai Brian Flynn yn well. Teimlad sydd gen i na fydd unrhyw neiwd tan o leiaf 2011 ond a fydd hynny'n rhy hwyr gyda cyfle euraidd arall wedi ei golli.

29/05/2009

Ble fydda'r Urdd heb wirforddolwyr ?


Roedd hi'n bleser i mi gerdded o amgylch maes yr Eisteddfod am dri diwrnod ar ddechrau'r wythnos. Mae'n rhaid talu teyrnged i athrawon ac eraill sy'n rhoi eu hamser rhydd lan i helpu hyfforddi plant ar gyfer cystadleuthau mewn Eisteddfodau. Rwy'n gwybod am rai mewn ysgolion sy'n aros ar ol ysgol i hyfforddi corau, partion llefaru a grwpiau dawnsio sawl gwaith pob wythnos yn arwain at Eisteddfodau, heb son am golli amseroedd egwyl a chinio. Hoffwn cymryd y cyfle yma i ddiolch iddynt am eu hymdrechion, y profiadau maent yn rhoi i blant a'r mwynhad maent yn rhoi i'r gweddill ohonom.


Diolch !

23/05/2009

Ydy'r A470 yn digon da i Gymru.

Dros yr wythnos nesaf bydd miloedd o Gymry yn teithio lawr ac yn nol i fyny prif ffordd ein gwlad. Bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr yn teithio lawr o'r Gogledd a'r Chanolbarth i'r brifddinas am Eisteddfod yr Urdd. Ydy'n amser i'r ffordd gael ei newid mewn i ffordd ddeuol. O rhan cyfleustra i gyrwyr ydy, ond yn amgylcheddol nac ydy, ac o rhan cost nac ydy. Mae'n haws i mi deithio i Landudno o Gaerffili trwy Gororau Lloegr, Henffordd, Amwythig a Chroesoswallt. Mae'n drueni bod ffyrdd gorau'r wlad sef yr M4 a'r A55 yn cludo pobl rhwng Cymru a Lloegr o'r Gorllewin i'r Dwyrain. Mae'n bechod nad oes cysylltiad digon da sy'n uno ein gwlad rhwng y Gogledd a'r De.

Beth yw'r ateb ?

21/05/2009

Pontypridd, England ?

Rwyf newydd agor cyfrif ar Facebook. Mae'r rhwydwaith cymdeithasol yn un llwyddiannus iawn ac mae'n wych gallu cysylltu gyda hen ffrindiau, yn enwedig rhai o ddyddiau ysgol. Ond, credaf ei fod yn warthus bod y cwmni yn cyfri trefi a dinasoedd Cymru yn Lloegr. Mae ymgyrch ar Facebook i newid y sefyllfa.

Pob lwc iddyn nhw !

19/05/2009

Eisteddfod yr Urdd

Bydd Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf ond a'i y Brif Ddinas yw'r man gorau i gynnal yr Wyl. Medda nhw Gwyl Ieuengtid mwyaf Ewrop gyda tua 100,000 o ymwelwyr trwy'r wythnos. Oes gan trigolion Ceardydd wir diddordeb neu ydyd';r mwyafrif yn gweld yr wythnos fel anghyfleustra. A fyddai'n well i'r Eisteddfod crwydro i gymunedau eraill y De yn hytrach na Chaerdydd.