23/05/2009

Ydy'r A470 yn digon da i Gymru.

Dros yr wythnos nesaf bydd miloedd o Gymry yn teithio lawr ac yn nol i fyny prif ffordd ein gwlad. Bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr yn teithio lawr o'r Gogledd a'r Chanolbarth i'r brifddinas am Eisteddfod yr Urdd. Ydy'n amser i'r ffordd gael ei newid mewn i ffordd ddeuol. O rhan cyfleustra i gyrwyr ydy, ond yn amgylcheddol nac ydy, ac o rhan cost nac ydy. Mae'n haws i mi deithio i Landudno o Gaerffili trwy Gororau Lloegr, Henffordd, Amwythig a Chroesoswallt. Mae'n drueni bod ffyrdd gorau'r wlad sef yr M4 a'r A55 yn cludo pobl rhwng Cymru a Lloegr o'r Gorllewin i'r Dwyrain. Mae'n bechod nad oes cysylltiad digon da sy'n uno ein gwlad rhwng y Gogledd a'r De.

Beth yw'r ateb ?

21/05/2009

Pontypridd, England ?

Rwyf newydd agor cyfrif ar Facebook. Mae'r rhwydwaith cymdeithasol yn un llwyddiannus iawn ac mae'n wych gallu cysylltu gyda hen ffrindiau, yn enwedig rhai o ddyddiau ysgol. Ond, credaf ei fod yn warthus bod y cwmni yn cyfri trefi a dinasoedd Cymru yn Lloegr. Mae ymgyrch ar Facebook i newid y sefyllfa.

Pob lwc iddyn nhw !

19/05/2009

Eisteddfod yr Urdd

Bydd Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf ond a'i y Brif Ddinas yw'r man gorau i gynnal yr Wyl. Medda nhw Gwyl Ieuengtid mwyaf Ewrop gyda tua 100,000 o ymwelwyr trwy'r wythnos. Oes gan trigolion Ceardydd wir diddordeb neu ydyd';r mwyafrif yn gweld yr wythnos fel anghyfleustra. A fyddai'n well i'r Eisteddfod crwydro i gymunedau eraill y De yn hytrach na Chaerdydd.

15/02/2008

Cymru yn y Eurovision ?


Breuddwyd neu hunlle.

Mae'n bosib y flwyddyn nesaf (2009) y bydd yr Alban yn canu'n annibynol yng Nghystadleuaeth Canu'r Eurovision. Mae nifer yn y wlad wedi bod yn ymgyrchu am hyn am sbel yn ol y Wasg Albanaidd. Yn ol rheolau'r EBU sy'n cynhyrchu'r sioe mae gan unrhyw wlad sy'n aelod o'r undeb yr hawl i roi can yn y gystadleuaeth. Mae'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn aelodau.

Os fydd yr Alban yn llwyddo dwi'n rhagweld Cymru yn cystadlu naill ai yn yr un flwyddyn neu y flwyddyn wedyn. Sgwn i ble fydd 12 pwynt pobl Cymru'n mynd ?

11/02/2008

Ydy Cymru angen Wrecsam

Dwi di cefnogi Wrecsam am 33 o flynyddoedd ac er fy mod nawr yn byw yn Nhe Cymru dal i deithio i dua haner dwsin o gemau crtref a tua 3i 4 oddi cartref pob blwyddyn. Os fuasai Wrecsam yn disgyn allan o'r gynrhair busai'n trychinbeb i mi ac i holl genfogwyr Wrecsam.

Ond beth fuasai'r effaith ar bel droed yng Nghymru. Dwi'n credu fusai'n anoddach (yn sicr yn bell o fod yn amhosib) i fechgyn ifanc y Gogledd chwarae i'r safon rhyngwladol. Fuasai safon "Pel droed yn y Gymuned" yn sicr o dioddef a fwy o fechgyn ifanc siroedd Fflint, Wrecsam a Dinbych yn edrych tua Lloegr. Tan i Gunter chwarae i Gymru llynedd dydw i ddim yn cofio umrhyw un o siroedd Casnwewydd na Mynwy yn chwarae i'r tim Cenedlaethol ers i Gasnewydd disgyn o'r Gynrhair yn niwedd yr 80au. Dydw i ddim yn dweud na fydd fwy o chwareuwyr o'r Gogledd yn chware i Gymru, fydd hynny ddim yn digwydd, ond mae siawns fawr y bydd llai.

Felly os fydd Wrecsam yn cwympo eleni bydd effaith ar y tim cenedlaethol mewn degawd i nawr?

01/02/2008

Lloegr v Cymru


Wel mae penwythnos y gem fawr wedi dod. Er fy mod yn gefnogwr pel droed rwyf yn edrych ymlaen pob flwyddyn i wylio gemau'r 6 gwlad yn enwedig Cymru yn chwarae'r hen elyn Loegr. Does dim gem arall sy'n uno'r Cymry yn fwy na'r gem yma ac codi gwefr a chreu cynwrf yn ein cendl fach. Miloedd yn tyru draw i Twickers i wylio'r gem a miloedd fwy yn dod o'r Gorllewin y Gogledd a'r Cymoedd i Gaerdydd am sesh a wylio mewn tafarn yng Nghanol y ddinas. Does dim rhyfedd bod Rheolwyr Bragdy Brains yn edrych ymlaen am yr amser yma o'r flwyddyn.

Felly un peth sydd i dddweud Dewch o na Cymru, Come on Wales !

13/01/2008

Parcio ar Zig Zags Melyn tu fas i Ysgol

Dydw i weithiau ddim yn deall beth sy'n digwydd mewn Cymdeithas. Tu fas i bron pob ysgol yng Nghymru mae marciau melyn siap zig zag sy'n ceisio atal pobl rhag parcio yno. Y rheswm -diogelwch plant, gwneud pethau'n haws i blant ysgol a'i rhieni croesi rhewl. Wrth gwrs tu fas i bron pob ysgol Yng Nghymru mae rhieni yn anwybyddu'r marciau oherwydd maent yn meddwl am un neu ddau o blant yn lle meddwl am y degau neu'r canoedd eraill.

Yr wythnos yma roedd digwyddiad bach tu fas i un o ysgolion cymoedd De Cymru, wnai ddim ei henwi am rhesymau amlwg. Penderfynodd dau o Swyddogion Heddlu'r Cymdeithas seffyll tu fas i ysgol gyda'r penderfyniad i fwcio unrhyw gyrwr oedd yn parcio ar y marciau melyn. Doedd dim syndod eu bod wedi bwcio nifer o yrwr dros y diwrnodau diwethaf. Y syndod mawr yw bod rhieni wedi dadlau a creu sgrach gyda'r heddweision yng nghanol y stryd. Clywais i un yn gweiddi "Where am I supposed to park then ?". Ond y syndod mwyaf i mi a'r siom bod dau o rhieni'r ysgol wedi gwneud cwynion swyddogol i'r Pencadlys Heddlu am eu bod wedi cael eu bwcio. Yn lle derbyn eu bod hwy yn anghywir maent yn credu bod yr Heddlu'n anghywir am gwneud deu gwaith.

Mae'r siwr yfory Dydd Llun ni fydd yr Heddlu o gwmpas yr ardal a bydd rhai o'r rhieni hyn yn ol yn parcio ar y marciau zig zag melyn ac yn creu perygl i blant.