23/05/2009

Ydy'r A470 yn digon da i Gymru.

Dros yr wythnos nesaf bydd miloedd o Gymry yn teithio lawr ac yn nol i fyny prif ffordd ein gwlad. Bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr yn teithio lawr o'r Gogledd a'r Chanolbarth i'r brifddinas am Eisteddfod yr Urdd. Ydy'n amser i'r ffordd gael ei newid mewn i ffordd ddeuol. O rhan cyfleustra i gyrwyr ydy, ond yn amgylcheddol nac ydy, ac o rhan cost nac ydy. Mae'n haws i mi deithio i Landudno o Gaerffili trwy Gororau Lloegr, Henffordd, Amwythig a Chroesoswallt. Mae'n drueni bod ffyrdd gorau'r wlad sef yr M4 a'r A55 yn cludo pobl rhwng Cymru a Lloegr o'r Gorllewin i'r Dwyrain. Mae'n bechod nad oes cysylltiad digon da sy'n uno ein gwlad rhwng y Gogledd a'r De.

Beth yw'r ateb ?

2 comments:

Rhys Llwyd said...

Neshi y syms rhai blynyddoedd yn ôl. Mae'r cofnod amdano fan yma: http://blog.rhysllwyd.com/?p=99

Byddai'n costio tua £4.6 BILIWN

Dwi rioed wedi edrych i weld faint oedd cost datblygiadau o'r fath yn Lloegr. Maen debyg y byddai'n annodd cymharu oherwydd fod datblygiadau fel yr M1, M6, M4 etc... wedi digwydd mewn gwahanol gymalau dros 40+ o flynyddoedd.

David Roberts said...

Diolch Rhys. Fuasai'r ffath swm yn gwneud y fath cynllun bron yn amhosib i Gymru. Dwi dal i gredu bod yna manau amlwg ar y ffordd sydd angen ei wella'n arw a threfi angen ffordd osgoi.