18/03/2015

Snwcer Rhyngwladol yn Llandudno

Gwych ! Chwaraeon Rhyngwladol yn yr hen dref. Cystadleuaeth newydd Grand Prix Rhyngwladol. 32 o chwareuwyr gorau'r byd mewn cystadleuaeth snwcer yn Venue Cymru Llandudno. Yn anfffodus gwylio ar ITV 4 fydda i ond pob lwc i'r rhai o Gymru sy'n cystadlu.

Beth nesaf Dartiau ? Pwy a wyr.

17/03/2015

Ysgogi Plant i Flogio

Fel athro mae pob diwrnod yn wahannol i'r llall. Yr wythnos yma rwyf wedi penderfynnu dysgu rhai o fechgyn fy nosbarth sut i greu blog syml a chadw dyddiadur o fewn y blog. Mae gennyf nifer o wahannol resymau am wneud hyn ond i ysgogi grwp o fechgyn i weithio ac i ddatblygu diddordeb yn gwaith eu hunain yw dau o'r brif rhesymau.

Y cwestiwn mawr yw fydd e'n llwyddiant. Dylai plant fod yn cyfathrebu yn drydanol yn hytrach na gyda'i gilydd. Ar hyn o bryd mae digon o gyfathrebu wedi mynd mlaen gyda'r plant yn helpu ei gilydd a rhasnnu syniadau ar wella eu dudalennau. A fydd y fenter bach yma'n llwyddo ? Amser a ddengys.

12/11/2014

Ydy Cymru'n Newid ?

Yn dilyn y pleidlais ar annibyniaeth yn Yr Alban y cwestiwn mawr ar hyn o bryd yw ydy agweddau'n ein gwlad bach ni yn newid. Er i'r Ymgyrch Ie colli'r pleidlais o 10% mae'n deg i ddweud mae nhw wnaeth ennill y ddadl a nhw wnaeth newid agweddau pobl yr Alban. Credaf hefyd y bydd Refferendwm arall o fewn 10 i 15 blynedd ac efallai y tro nesaf annibyniaeth yn dilyn.

Beth yw'r effaith arnom ni yng Nghymru ? Nid llawer medd rhai, gyda prin newid na chynydd yn y nifer sy'n galw am annibyniaeth. Ond mae newid mewn agwedd ac yn sicr am y tro cyntaf mewn sbel mae pobl yn trafod datganoli ac er eu bod yn sibrwd yn dechrau trafod annibyniaeth ei hun. Dwi'n sicr y bydd mwy o bwerau ar y fordd o fewn y flwyddyn neu ddwy nesaf ac hefyd yr un mor sicr bydd y galw am fwy o bwerau eto yn parhau a'r galw am annibyniaeth er yn parhau yn leiafrif sylweddol yn codi yn ei dro. Cofiwch y dywediad Dyfal Donc a Dur y Garreg.

24/04/2013

Dau Dim o Gymru ar y Ffordd i Wembley

Ar ol cymal cyntaf y gemau ail chwarae I Gyngrhair Conference y Blue Square all y ddau glwb o Gymru chwarae yn erbyn ei gilydd. Gyda Wrecsam yn curo Kidderminster o 2-1 ac heno Casnewydd yn curo Grimsby oddi cartref 1-0 mae posibilrwydd cawn weld y gem cyntaf erioed rhwng ddau glwb o Gymru yn Wembley. Cawn yr ateb Dydd Sul !

16/05/2010

Pobl mewn Busnes yn Ymddiried yn y Cymry

Yn ol arolwg barn gan gwmni Findsyoucars.com mae gan pobl fwy o ymddiried gyda siaradwyr a'r acen Gymreig wrth wneud busnes na sydd a'r acen Wyddeleg neu Albanaidd. Daeth y Cymry'n uchel yn yr arolwg gyda pobl o Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Pobl gyda acen o Lerpwl oedd ar y gwaelod.

09/05/2010

Etholiad Drosodd

Amser diddorol iawn yng Ngwleidyddiaeth Cymru. Mae'n debygol y bydd y Ceidwadwyr o dan arweiniaeth David Cameron yn rheoli dros y DU. Efallai fydd angen cefnogaeth y Rhyddfrydwyr Democratiaid arnyn nhw. Dim ond lleiafrif o Gymry waneth pleidleisio am hyn.

Gyda'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru'n rhedeg y Cynulliad ym Mae Caerdydd dwi'n rhagweld problemau dros y blynyddoedd nesaf. Yn sicr bydd prawf mawr i'r ffordd mae'r Cynulliad yn gweithio. Fel dwi'n ei weld ar hyn o bryd fydd toriadau gwariant mawr, felly mae'n sicr bydd toriad yn yr arian sy'n dod i Gymru o Lundain. Bydd rhaid i'r Cynulliad gwneud toriadau i Wasanaethau Pwysig yng Nghymru e.e. Addysg, Iechyd, Trafnidiaeth, Awdurdod Leol a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ond pwy fydd y Cymry'n beio.

Fel dwi'n ei weld mae'n rhaid i'r Llywodraeth yn Llundain cytuno a rhoi sel bendith i unrhyw penderfyniad a wneir yng Nghaerdydd. Beth fydd yn digwydd os mae'r Llywodraeth yn peidio a wneud hyn oherwydd yr effaith ar bobl Lloegr.

Argyfwng Cyfansoddiadol efallai !

21/12/2009

Slade yn y Gymraeg

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8419595.stm

Mae un o ganeuon fwyaf enwog yr wyl Merry Christmas gan Slade wedi ei gyfiaethu mewn i'r Gymraeg. Bydd y can yn ei chyfanrwydd ar Radio Cymru ar Noswyl y Nadolig.