Blog am fywyd, diwylliant a chwaraeon yng Nghymru Fach. Blog sy'n dilyn fy siwrna i fyw bywyd iachach.
24/04/2013
Dau Dim o Gymru ar y Ffordd i Wembley
Ar ol cymal cyntaf y gemau ail chwarae I Gyngrhair Conference y Blue Square all y ddau glwb o Gymru chwarae yn erbyn ei gilydd. Gyda Wrecsam yn curo Kidderminster o 2-1 ac heno Casnewydd yn curo Grimsby oddi cartref 1-0 mae posibilrwydd cawn weld y gem cyntaf erioed rhwng ddau glwb o Gymru yn Wembley. Cawn yr ateb Dydd Sul !
16/05/2010
Pobl mewn Busnes yn Ymddiried yn y Cymry
Yn ol arolwg barn gan gwmni Findsyoucars.com mae gan pobl fwy o ymddiried gyda siaradwyr a'r acen Gymreig wrth wneud busnes na sydd a'r acen Wyddeleg neu Albanaidd. Daeth y Cymry'n uchel yn yr arolwg gyda pobl o Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Pobl gyda acen o Lerpwl oedd ar y gwaelod.
09/05/2010
Etholiad Drosodd
Amser diddorol iawn yng Ngwleidyddiaeth Cymru. Mae'n debygol y bydd y Ceidwadwyr o dan arweiniaeth David Cameron yn rheoli dros y DU. Efallai fydd angen cefnogaeth y Rhyddfrydwyr Democratiaid arnyn nhw. Dim ond lleiafrif o Gymry waneth pleidleisio am hyn.
Gyda'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru'n rhedeg y Cynulliad ym Mae Caerdydd dwi'n rhagweld problemau dros y blynyddoedd nesaf. Yn sicr bydd prawf mawr i'r ffordd mae'r Cynulliad yn gweithio. Fel dwi'n ei weld ar hyn o bryd fydd toriadau gwariant mawr, felly mae'n sicr bydd toriad yn yr arian sy'n dod i Gymru o Lundain. Bydd rhaid i'r Cynulliad gwneud toriadau i Wasanaethau Pwysig yng Nghymru e.e. Addysg, Iechyd, Trafnidiaeth, Awdurdod Leol a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ond pwy fydd y Cymry'n beio.
Fel dwi'n ei weld mae'n rhaid i'r Llywodraeth yn Llundain cytuno a rhoi sel bendith i unrhyw penderfyniad a wneir yng Nghaerdydd. Beth fydd yn digwydd os mae'r Llywodraeth yn peidio a wneud hyn oherwydd yr effaith ar bobl Lloegr.
Argyfwng Cyfansoddiadol efallai !

21/12/2009
Slade yn y Gymraeg
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8419595.stm
Mae un o ganeuon fwyaf enwog yr wyl Merry Christmas gan Slade wedi ei gyfiaethu mewn i'r Gymraeg. Bydd y can yn ei chyfanrwydd ar Radio Cymru ar Noswyl y Nadolig.
Mae un o ganeuon fwyaf enwog yr wyl Merry Christmas gan Slade wedi ei gyfiaethu mewn i'r Gymraeg. Bydd y can yn ei chyfanrwydd ar Radio Cymru ar Noswyl y Nadolig.
11/12/2009
Copenhagen
Cynhadledd pwysig iawn i'r ddaear ac i ni yng Nghymru Fach. Bydd arweinwyr gwledydd y byd yn gwneud penderfyniadau yr wythnos hon fydd yn dyngedfenol i dyfodol ein gwlad. Oes pethau all wlad fach fel ni ei wneud.
Oes ! Oes ! ac Oes !
Mae'n rhaid i bob un ohonom ni feddwl am y dyfodol ac effaith y ffordd yr ydym yn byw. Sbwriel, egni, trafnidiaeth a dwr, faint ohonom fydd yn gwastraffu neu'n defnyddio un o'r rhain yn ddi-angen heddiw.
Beth am feddwl am y dyfodol a chymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd.

28/11/2009
Gormod o Siopau Newydd yng Nghaerdydd neu'r Dirwasgiad ?
Ydy mae Canolfan Siopau Newydd Caerdydd "St David's 2" yn edrych yn arbennig o dda. Mae'n codi proffil ein prifddinas ac yn cynig profiadau siopa gwych i gwsmeriaid.Ond, beth yw'r pris i Ganolfannau Siopau eraill o gwmpas yr ardal.
Yn ddiweddar es i Grwys Cwrlwys (Culverhouse Cross) i brynnu cyfrifiadur newydd. Sylweddolais yn syth pa mor fler oedd y rhan yna o'r ddinas yn dechrau edrych gyda ambell i uned yn wag. Mae unedau gwag yn parhau o amgylch Stadiwm Newydd Dinas Caerdydd ac hefyd nid yw'r Canolfan Newdd yng Nghanol Ddinas yn bell o fod yn llawn.A'i y dirwasgiad sy'n gyfrifol am yr unedau gwag. Mae'n rhaidi fod rhywfaint o effaith y dirwasgiad am hyn ond oes gormod o unedau newydd wedi codi yn ddiweddar. Dwi'n credu bod. Oes digon o siopwyr i gynal yr holl ganolfannau newydd ? Oes digon o arian yn yr economi ?
Amser a ddengys !
23/11/2009
Glaw, Glaw a Fwy o Law
Ydy'r tywydd drwg yma am orffen rhywbryd ?
Pob blwyddyn mae gyfnod o amser pam mae'n glawio am gyfnod hir a phob blwyddyn dwi'n dweud wrth fy hyn mae dyma'r glaw gwaethaf dwi di weld.
Ydw i'n iawn i gredu hynny ? Ydy'r tywydd yn mynd yn wlypach ? Ydy e'n ran o Hinsawdd y Byd yn newid ? A'i pobl sydd ar fai ?
Os yw'r moroedd yn codi a'r glaw yn disgyn mwy, beth fydd yn digwydd i diroedd isel ein gwlad ?

Subscribe to:
Posts (Atom)