09/05/2010

Etholiad Drosodd

Amser diddorol iawn yng Ngwleidyddiaeth Cymru. Mae'n debygol y bydd y Ceidwadwyr o dan arweiniaeth David Cameron yn rheoli dros y DU. Efallai fydd angen cefnogaeth y Rhyddfrydwyr Democratiaid arnyn nhw. Dim ond lleiafrif o Gymry waneth pleidleisio am hyn.

Gyda'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru'n rhedeg y Cynulliad ym Mae Caerdydd dwi'n rhagweld problemau dros y blynyddoedd nesaf. Yn sicr bydd prawf mawr i'r ffordd mae'r Cynulliad yn gweithio. Fel dwi'n ei weld ar hyn o bryd fydd toriadau gwariant mawr, felly mae'n sicr bydd toriad yn yr arian sy'n dod i Gymru o Lundain. Bydd rhaid i'r Cynulliad gwneud toriadau i Wasanaethau Pwysig yng Nghymru e.e. Addysg, Iechyd, Trafnidiaeth, Awdurdod Leol a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ond pwy fydd y Cymry'n beio.

Fel dwi'n ei weld mae'n rhaid i'r Llywodraeth yn Llundain cytuno a rhoi sel bendith i unrhyw penderfyniad a wneir yng Nghaerdydd. Beth fydd yn digwydd os mae'r Llywodraeth yn peidio a wneud hyn oherwydd yr effaith ar bobl Lloegr.

Argyfwng Cyfansoddiadol efallai !

21/12/2009

Slade yn y Gymraeg

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8419595.stm

Mae un o ganeuon fwyaf enwog yr wyl Merry Christmas gan Slade wedi ei gyfiaethu mewn i'r Gymraeg. Bydd y can yn ei chyfanrwydd ar Radio Cymru ar Noswyl y Nadolig.

11/12/2009

Copenhagen

Cynhadledd pwysig iawn i'r ddaear ac i ni yng Nghymru Fach. Bydd arweinwyr gwledydd y byd yn gwneud penderfyniadau yr wythnos hon fydd yn dyngedfenol i dyfodol ein gwlad. Oes pethau all wlad fach fel ni ei wneud.

Oes ! Oes ! ac Oes !

Mae'n rhaid i bob un ohonom ni feddwl am y dyfodol ac effaith y ffordd yr ydym yn byw. Sbwriel, egni, trafnidiaeth a dwr, faint ohonom fydd yn gwastraffu neu'n defnyddio un o'r rhain yn ddi-angen heddiw.

Beth am feddwl am y dyfodol a chymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd.

28/11/2009

Gormod o Siopau Newydd yng Nghaerdydd neu'r Dirwasgiad ?

Ydy mae Canolfan Siopau Newydd Caerdydd "St David's 2" yn edrych yn arbennig o dda. Mae'n codi proffil ein prifddinas ac yn cynig profiadau siopa gwych i gwsmeriaid.Ond, beth yw'r pris i Ganolfannau Siopau eraill o gwmpas yr ardal.

Yn ddiweddar es i Grwys Cwrlwys (Culverhouse Cross) i brynnu cyfrifiadur newydd. Sylweddolais yn syth pa mor fler oedd y rhan yna o'r ddinas yn dechrau edrych gyda ambell i uned yn wag. Mae unedau gwag yn parhau o amgylch Stadiwm Newydd Dinas Caerdydd ac hefyd nid yw'r Canolfan Newdd yng Nghanol Ddinas yn bell o fod yn llawn.

A'i y dirwasgiad sy'n gyfrifol am yr unedau gwag. Mae'n rhaidi fod rhywfaint o effaith y dirwasgiad am hyn ond oes gormod o unedau newydd wedi codi yn ddiweddar. Dwi'n credu bod. Oes digon o siopwyr i gynal yr holl ganolfannau newydd ? Oes digon o arian yn yr economi ?

Amser a ddengys !

23/11/2009

Glaw, Glaw a Fwy o Law

Ydy'r tywydd drwg yma am orffen rhywbryd ?

Pob blwyddyn mae gyfnod o amser pam mae'n glawio am gyfnod hir a phob blwyddyn dwi'n dweud wrth fy hyn mae dyma'r glaw gwaethaf dwi di weld.

Ydw i'n iawn i gredu hynny ? Ydy'r tywydd yn mynd yn wlypach ? Ydy e'n ran o Hinsawdd y Byd yn newid ? A'i pobl sydd ar fai ?

Os yw'r moroedd yn codi a'r glaw yn disgyn mwy, beth fydd yn digwydd i diroedd isel ein gwlad ?

22/11/2009

Elyrch neu'r Adar Glas

Er fy mod yn gefnogwr Wrecsam (wnawn ni ddweud dim mwy am hynny) mae'n diddorol edrych o'r tu allan ar y brwydr yn y Pencampwriaeth rhwng Caerdydd ac Abertawe. Pa un yw'r tim pel droed gorau yng Nghymru.

Mae Abertawe yn sicr yn perfformio yn llawer gwell nag oeddwn i a nifer eraill yn disgwyl. Wrth edrych ar y tabl y bore ma maent yn haeddianol un safle yn uwch na Chaerdydd. Yn ddiweddar mae canlyniadau a perfformiadau'r Elyrch wedi bod yn ganmoladwy iawn i ddweud y lleiaf yn cynnwys buddugoliaeth o 3 gol i 2 yn erbyn Caerdydd.

"False Dawn" Na ! Dwi ddim yn credu hynny maent yn symud i'r cyfeiriad cywir. Am Gaerdydd sydd i mi a'r chwaraewyr gorau o'r ddau dim, yr 11 cyntaf gorau a rheolwr profiadol iawn.

Dwi'n darogan bydd y ddau'n gorffen yn gyfforddus yn yr haner uchaf (dim sioc fana) gyda un os nad y ddau ohonyn nhw'n cyrraedd y chwech uchaf. Ond, pan ddaw Mis Mai pa set o gefnogwyr bydd yn brolio eu bod yn cefnogi tim gorau Cymru ?

08/07/2009

Gwerthu Caerdydd i'r Byd.


Heddiw mae cryn dipyn o sylw ar ein brifddinas gyda prawf cyntaf cyfres y lludw yn dechrau ar Erddi Soffia. Amcangyfrir y gall Caerdydd denu cannoedd o filiynnau o bunnoedd gyda cynydd yn nifer yr ymwelwyr yn dod i ymweld a'r dinas mawr ddrwg.

Dros y pymtheg mlynedd diwethaf ers i mi ddod lawr o'r Gogledd mae'r dinas wedi gwella eu apel cryn dipyn, yn enwedig lawr ym Mae Caerdydd. Mae rhai yn y wasg yn anhapus fod Caerdydd yn cael ddenyddio am achlysur mor bwysig ac yn credu y dylai'r criced fod yn y dinasoedd fwy traddodiadol yn Lloegr. Rwy'n gobeithio y bydd y pobl yna yn ymweld a Chaerdydd yn gyntaf cyn ei feirniadu.

Wrth gwrs fe all y tywydd Gymreig difetha'r cyfan.