Mae na Parkrun newydd yn dechrau bore fory yng nghyffiniau Machen sydd haner ffordd rhwng Caerffili a Chasnewydd. Am 9.00am bydd canooed o redwyr brwd yn dechrau ar gwrs 5km heriol trwy Goed Cefn Pwll Du. Dwi'n bwriadu fod yn un ohonyn nhw.
Ers gorffen Rhaglen Ffit Cymru mis Mai diwethaf rwyf wedi rhedeg 24 o barciau run mewn 20 lleoliad gawhannol ar draws Gymru Fach. Mae gen i'r bug rhedeg. Er nad wyf yn gyflym (dwi fel arfer yn rhedeg 5km mewn 29 i 30 munud) dwi'n mwynhau pob cam o'r cyrsiau.
Felly bore fory, rhowch eich dillad rhdeg ymlaen, llenwch eich botel dwr, ewch i nol eich barcode a rhedwch mewn Parkrun.
Cymru Fach, Cymry Iach !
Blog am fywyd, diwylliant a chwaraeon yng Nghymru Fach. Blog sy'n dilyn fy siwrna i fyw bywyd iachach.
17/01/2020
25/02/2019
Ydy'r Cymry'n Iach
Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn pendronni os yw'r Cymry'n iach o rhan ffitrwydd. Yn sicr dydw i ddim. Ers troi'n 50 mlwydd oed rwyf wedi bod yn edrych ar ffitrwydd fy hun ac eraill ac wedi dod i'r penderfyniad nad yw digon o bobl y wlad yn edrych ar ol iechyd eu hunain. Mae gormod ohonom yn bwyta'r pethau anghywir ac yn gwneud cyn lleied o ymarfer corff ac y gallen. Mae angen i bethau newid.!
Ond sut ?
Ond sut ?
23/04/2015
Etholiad Yng Nghymru
Nid wyf yn cofio etholiad tebyg i hwn. Mwy o ddewisiadau a llai o ddylanwad gan y ddau prif blaid. Ond, a dyma'r ond mawr oes unrhywbeth wir yn newid yng Nghymru ?
Os ydym am gymharu ein hunain gyda'r Alban a'r codiad sylweddol i gefnogaeth yr SNP yr ateb siwr o fod fydd na. Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn siwr o gipio y mwyafrif o seddi gyda'r Ceidwadwyr yn bell tu ol iddynt yn ail. Mae'n debyg bydd y Rhyddfrydwyr yn is na tro diwethaf gyda UKIP yn codi ond ddim yn agos at gipio seddi. Dyle seddi Gogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd newid dwylo ac efallai Brycheiniog a Maesyfyd ond siwr o fod dim byd arall rhwng y Pleidiau Prydeinig.
Ond beth am Plaid Cymru ? Mae'r Plaid wedi cael mwy o sylw y tro yma ac mae Leanne Wood wedi perfformio yn dda ac wrth i'r Etholiad mynd yn ei flaen wedi edrych yn fwy hyderus. Doedd y Polau cychwynnol ddim yn edrych yn addawol i'r Blaid ar tua 9-10% ond roedd pol wythnos diwethaf, yn dangos cynydd bach i 12% ac mae rhai yn synhwyro fod y cefnogaeth yn parhau ar ei fyny. Wrth siarad i bobl yn y Cymoedd sydd ddim fel arfer yn cefnog'r Plaid, maent yn bositif iawn am neges Leanne Wood a Phlaid Cymru. Synwn i ddim ar noson yr Etholiad bod Ynys Mon ac efallai Cerdegion hefyd yn newid dwylo gyda canlyniad agos yn Llanelli. Synwn i ddim chwaith bod canran y blaid yn uwch na'r disgwyl yng Nghastell Nedd a'r Rhondda. Chris Bryant you've been warned !
Yn yr Etholiad diwethf wnes i ddaragon 39/40 o'r seddi yn Nghymru yn gywir ar Safle Maes-E. Dim ond Trefaldwyn cefais yn anghywir. Y tro yma rwy'n daraogan 3 sedd i newid dwylo yng Nghymru Gogledd a Chanol Caerdydd ac Ynys Mon. Rwyf hefyd yn credu caiff Plaid Cymru ei chanran uchaf eriod tua 14-15% o'r pleidlais yng Nghymru Fach.

18/03/2015
Snwcer Rhyngwladol yn Llandudno
17/03/2015
Ysgogi Plant i Flogio
Fel athro mae pob diwrnod yn wahannol i'r llall. Yr wythnos yma rwyf wedi penderfynnu dysgu rhai o fechgyn fy nosbarth sut i greu blog syml a chadw dyddiadur o fewn y blog. Mae gennyf nifer o wahannol resymau am wneud hyn ond i ysgogi grwp o fechgyn i weithio ac i ddatblygu diddordeb yn gwaith eu hunain yw dau o'r brif rhesymau.
Y cwestiwn mawr yw fydd e'n llwyddiant. Dylai plant fod yn cyfathrebu yn drydanol yn hytrach na gyda'i gilydd. Ar hyn o bryd mae digon o gyfathrebu wedi mynd mlaen gyda'r plant yn helpu ei gilydd a rhasnnu syniadau ar wella eu dudalennau. A fydd y fenter bach yma'n llwyddo ? Amser a ddengys.

12/11/2014
Ydy Cymru'n Newid ?
Yn dilyn y pleidlais ar annibyniaeth yn Yr Alban y cwestiwn mawr ar hyn o bryd yw ydy agweddau'n ein gwlad bach ni yn newid. Er i'r Ymgyrch Ie colli'r pleidlais o 10% mae'n deg i ddweud mae nhw wnaeth ennill y ddadl a nhw wnaeth newid agweddau pobl yr Alban. Credaf hefyd y bydd Refferendwm arall o fewn 10 i 15 blynedd ac efallai y tro nesaf annibyniaeth yn dilyn.
Beth yw'r effaith arnom ni yng Nghymru ? Nid llawer medd rhai, gyda prin newid na chynydd yn y nifer sy'n galw am annibyniaeth. Ond mae newid mewn agwedd ac yn sicr am y tro cyntaf mewn sbel mae pobl yn trafod datganoli ac er eu bod yn sibrwd yn dechrau trafod annibyniaeth ei hun. Dwi'n sicr y bydd mwy o bwerau ar y fordd o fewn y flwyddyn neu ddwy nesaf ac hefyd yr un mor sicr bydd y galw am fwy o bwerau eto yn parhau a'r galw am annibyniaeth er yn parhau yn leiafrif sylweddol yn codi yn ei dro. Cofiwch y dywediad Dyfal Donc a Dur y Garreg.

24/04/2013
Dau Dim o Gymru ar y Ffordd i Wembley
Ar ol cymal cyntaf y gemau ail chwarae I Gyngrhair Conference y Blue Square all y ddau glwb o Gymru chwarae yn erbyn ei gilydd. Gyda Wrecsam yn curo Kidderminster o 2-1 ac heno Casnewydd yn curo Grimsby oddi cartref 1-0 mae posibilrwydd cawn weld y gem cyntaf erioed rhwng ddau glwb o Gymru yn Wembley. Cawn yr ateb Dydd Sul !
Subscribe to:
Posts (Atom)