23/04/2015

Etholiad Yng Nghymru

Nid wyf yn cofio etholiad tebyg i hwn. Mwy o ddewisiadau a llai o ddylanwad gan y ddau prif blaid. Ond, a dyma'r ond mawr oes unrhywbeth wir yn newid yng Nghymru ?

Os ydym am gymharu ein hunain gyda'r Alban a'r codiad sylweddol i gefnogaeth yr SNP yr ateb siwr o fod fydd na. Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru  yn siwr o gipio y mwyafrif o seddi gyda'r Ceidwadwyr yn bell tu ol iddynt yn ail. Mae'n debyg bydd y Rhyddfrydwyr yn is na tro diwethaf gyda UKIP yn codi ond ddim yn agos at gipio seddi. Dyle seddi Gogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd newid dwylo ac efallai Brycheiniog a Maesyfyd ond siwr o fod dim byd arall rhwng y Pleidiau Prydeinig.

Ond beth am Plaid Cymru ? Mae'r Plaid wedi cael mwy o sylw y tro yma ac mae Leanne Wood wedi perfformio yn dda ac wrth i'r Etholiad mynd yn ei flaen wedi edrych yn fwy hyderus. Doedd y Polau cychwynnol ddim yn edrych yn addawol i'r Blaid ar tua 9-10% ond roedd pol wythnos diwethaf, yn dangos cynydd bach i 12% ac mae rhai yn synhwyro fod y cefnogaeth yn parhau ar ei fyny. Wrth siarad i bobl yn y Cymoedd sydd ddim fel arfer yn cefnog'r Plaid, maent yn bositif iawn am neges Leanne Wood a Phlaid Cymru. Synwn i ddim ar noson yr Etholiad bod Ynys Mon ac efallai Cerdegion hefyd yn newid dwylo gyda canlyniad agos yn Llanelli. Synwn i ddim chwaith bod canran y blaid yn uwch na'r disgwyl yng Nghastell Nedd a'r Rhondda. Chris Bryant you've been warned !

Yn yr Etholiad diwethf wnes i ddaragon 39/40 o'r seddi yn Nghymru yn gywir ar Safle Maes-E. Dim ond Trefaldwyn cefais yn anghywir. Y tro yma rwy'n daraogan 3 sedd i newid dwylo yng Nghymru Gogledd a Chanol Caerdydd ac Ynys Mon. Rwyf hefyd yn credu caiff Plaid Cymru ei chanran uchaf eriod tua 14-15% o'r pleidlais yng Nghymru Fach.